Alfredo Cramerotti

Curadur, awdur, darlledwr, cyhoeddwr a chasglwr o gelfyddyd gyfoes, ffilm a fideo, perfformiad, ffotograffiaeth, cynhadledd a ffurfiau cyfryngau ar-lein.

Alfredo Cramerotti

Mae’n Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Celfyddydau Gweledol MOSTYN ers 2011, y sefydliad mwyaf blaenllaw o ran celfyddyd gyfoes yng Nghymru, a Phrif Guradur Ymddiriedolaeth Pensiwn Artistiaid, APT Global. Mae’n ategu ei waith yng Nghymru drwy fod yn weithgar ym myd y celfyddydau gweledol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi cynnwys curadu XPO VIDEO yn Chicago, tri phafiliwn cenedlaethol yn Biennale Fenis (Mauritius yn 2015, a Chymru a’r Maldieves yn 2013), a bennials fel Sequences VII yng Ngwlad yr Iâ a Manifesta 8 yn Sbaen.

Mae Cramerotti yn Ymchwilydd Ysgolhaig yn eCPR – y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Ffotograffiaeth, Prifysgol De Cymru (DU), ac yn ddarlithydd sy’n ymweld â nifer o brifysgolion a cholegau celf mawr ledled Ewrop ac America, yn o gystal â chyhoeddi’n gyson, darlledu a siarad cyhoeddus. Mae’n gyfrannwr i Kybernein, uned ymchwil ddiwylliannol, ac yn gyd-sylfaenydd AGM Culture, asiantaeth curadu sy’n teithio, a CPS – Siambr Cyfrinachau Cyhoeddus, cyd gynhyrchiad celf a chyfryngau, yn o gystal â Golygydd y gyfres lyfrau Critical Photography gan Intellect. Mae ei waith ei hun yn cynnwys y llyfrau Aesthetic Journalism: How to inform without informing (2009), Unmapping the City: Perspectives of Flatness (2010) a Forewords to the Hyperimage, sydd ar y gweill ac i ddod yn 2017.

Gwefan